Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Environment and Sustainability Committee                    

 

 

 

 

 

 

Carl Sargeant AC

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

28 Hydref 2014

 

 

 

Annwyl Carl,

 

Ymchwiliad i’r ystâd goedwig gyhoeddus yng Nghymru

 

Fel y gwyddoch, cynhaliodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ymchwiliad byr yn ddiweddar i waith Cyfoeth Naturiol Cymru o reoli'r ystâd goedwig gyhoeddus yng Nghymru.  Cafodd hyn ei wneud yn rhannol i ymateb i bryderon a godwyd pan oedd y Pwyllgor yn ystyried yr Achos Busnes dros greu un corff amgylcheddol i Gymru. Yn benodol, daeth y Pwyllgor i'r casgliad y byddai perygl o golli ffocws masnachol Comisiwn Coedwigaeth Cymru pe bai'r Comisiwn yn cael ei gynnwys o fewn y corff newydd.  Flwyddyn ers creu Cyfoeth Naturiol Cymru, teimla'r Pwyllgor y byddai'n amser addas i gynnal ymchwiliad byr i asesu a oedd cyfiawnhad dros y pryder hwnnw.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig a chynhaliodd ddiwrnod o sesiynau i gasglu tystiolaeth gan y sector coedwigaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru.  Aeth yr Aelodau ar ymweliad hefyd â Chanolfan Ymwelwyr Coedwigaeth Garwnant ym Mannau Brycheiniog a melin goed BSW Timber yn y Bontnewydd-ar-Wy, Powys. 

 

 

 

Diben yr ymchwiliad oedd ystyried:

 

Ceir rhestr o bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad fel atodiad i'r llythyr hwn.

 

Gweithrediadau a Ffocws Masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru

Roedd tystiolaeth gan y sector coedwigaeth preifat a chyrff cynrychioliadol yn feirniadol iawn o weithrediadau a ffocws masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru.  Cyfeiriodd y tystion at ddiffyg arweinyddiaeth a chraffter busnes o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru sydd, yn eu barn hwy, wedi arwain at ddirywiad mewn ffocws masnachol a rheoli'r ystâd goedwig gyhoeddus ers dyddiau Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

 

Gavin Adkins yw Cyfarwyddwr Pryniant BSW Timber, a dywedodd wrth y Pwyllgor fod ei gwmni wedi profi oedi o ran cael pren gan Cyfoeth Naturiol Cymru oherwydd polisi Cyfoeth Naturiol Cymru o beidio â phrynu gwasanaethau i drin a danfon deunyddiau nes y byddai'r pren wedi'i werthu.  Awgrymodd Mr Adkins i'r Pwyllgor y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried tendro am gontract blynyddol ar gyfer gwasanaethau fel hyn er mwyn gwella cysondeb y cyflenwad. 

 

Trefor Owen yw Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cenedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru, a dywedodd ei fod yn ywybodol y bu oedi oherwydd tywydd gwael a'r galw uchel am bren, ac y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ar ffyrdd y gall paratoadau contractau gael eu symleiddio. Ceri Davies yw Cyfarwyddwr Gweithredol Gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ac ychwanegodd fod y sefydliad wedi annog pawb sydd â chontractau â Chyfoeth Naturiol Cymru i rannu eu profiadau â'r sefydliad.

 

Mae'r Pwyllgor yn gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru ystyried y sylwadau a wnaeth y rhanddeiliaid mewn cysylltiad ag oedi wrth gyflenwi pren i'r diwydiant a nodi'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd i osgoi unrhyw oedi yn y dyfodol, gan gynnwys a fyddai'n bosibl sefydlu contractau tymor hwy ar gyfer trin a chyflenwi coed.

 

Hybu coedwigaeth

Mynegodd y rhanddeiliadi bryderon hefyd ynghylch agwedd Cyfoeth Naturiol Cymru tuag at hybu'r sector coedwigaeth yng Nghymru.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y diwydiant wedi gweld newid ers trosglwyddo swyddogaethau o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru i Gyfoeth Naturiol Cymru.  Mike Harvey yw Cyfarwyddwr Meithrinfeydd Coedwigoedd Maelor, a dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Comisiwn Coedwigaeth yn fwy cefnogol o goedwigaeth, a dywedodd Martin Bishop, Rheolwr Cenedlaethol Confor dros Gymru fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried ei hun fwy fel cynghorwr yn hytrach nag eiriolwr.   Rhybuddiodd Mr Harvey “If a major player in forestry is not going to have a voice and argue for forestry, then I cannot see Welsh Government policy [Woodlands for Wales Strategy] being delivered."

 

Dywedodd Mr Harvey hefyd nad yw'r rheolwyr coedwigaeth o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol i rywun sydd ag arferion coedwigaeth uwch o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru. Ychwanegodd fod llawer o randdeiliaid yn credu fod angen y swydd honno.

 

Dywedodd Ceri Davies wrth y Pwyllgor fod y cyfrifoldebau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn glir, ei bod hi'n gyfrifol am bolisi a strategaeth coedwigaeth a bod Trefor Owen yn gyfrifol am agweddau rheoleiddio a menter.  Dywedodd Mr Owen ei fod yn falch bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llwyddo i ddenu pobl i weithio ar yr ochr goedwigaeth, gan gynnwys rhai gweithwyr coedwigaeth proffesiynol a rhai gyda chefndir mewn disgyblaethau eraill.

 

Mae'r Pwyllgor yn sylweddoli bod y pryderon a godir gan y diwydiant coedwigaeth yn rhai difrifol, fodd bynnag, mae hefyd yn cydnabod y newidiadau sylweddol sydd wedi digwydd ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru a bod angen amser i'r strwythur newydd gael ei ymgorffori.  Yn y cyfamser, ni ddylid anwybyddu pryderon y diwydiant a dylai Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd camau i sicrhau y caiff yr ofnau hynny eu lleddfu.  Mae'r Pwyllgor am i Cyfoeth Naturiol Cymru roi diweddariad ar y camau y mae'n eu cymryd i ymdrin â'r pryderon hyn.

 

Diffyg plannu

Codwyd pryderon difrifol ynghylch faint o goetiroedd a gaiff eu creu a faint o goed a gaiff eu hailblannu yng Nghymru, yn enwedig o ran rhywogaethau conwydd masnachol. Er bod posibilrwydd o ddigon o gyflenwad o bren dros yr ugain mlynedd nesaf, roedd rhanddeiliaid yn pryderu y byddai diffyg plannu yn arwain at ddirywiad cyflym yn y cyflenwad ar ôl 2030.

 

Dywedodd Gavin Adkins wrth y Pwyllgor fod targed Llywodraeth Cymru o blannu 100,000 ha erbyn 2030 yn ganmoladwy, ond mai dim ond 200ha o goed conwydd newydd, sef y math o bren a ddefnyddir yn y diwydiant yn hytrach na'r coed llydanddail a oedd wedi cael eu plannu dros y 5 mlynedd diwethaf.  Rhybuddiodd fod angen plannu ar unwaith, neu ni fyddai'r diwydiant coedwigaeth yn goroesi yng Nghymru yn y tymor hir. Roedd tystion eraill hefyd yn cytuno â'r safbwynt hwn.

 

Yn benodol, codwyd pryder bod y cydbwysedd o ran y rhywogaethau o goed a gaiff eu plannu yn lleihau'r cyflenwad masnachol o bren hyfyw ar gyfer y dyfodol.  Tynnodd y Wood Panel Industries Federation sylw at hyn mewn tystiolaeth ysgrifenedig, gan ddweud:

“during 2008-2013 only 65% of the felled area was restocked with conifers even though nearly 100% of the area was stocked with conifers at the point of felling. This compares to 84% conifer restocking in Scotland. Compensatory woodland creation has not mitigated this loss as only 200 hectares of conifers were planted during this time, compared to 2100 hectares of broadleaves.”

 

Yn ôl dangosyddion Coetiroedd i Gymru 2012-13, roedd plannu coetiroedd wedi cynyddu ers 2008, ond roedd cyfran fwy o goed llydanddail wedi'u plannu na chonwydd.  Nododd:

“since 2001, the estimated area of conifer woodland in Wales has decreased by 17,000 ha, while the estimated area of broadleaf woodland has increased by 33,000 ha.”

 

Dywedodd David Edwards, wrth gynrychioli'r Panel Cynghori ar y Strategaeth Goetiroedd, fod angen cymhellion i greu coetir newydd, ac mai'r broblem benodol yng Nghymru yw hynny o dir sydd ar gael, am fod cymaint o gyfyngiadau ar waith. Andrew Bronwin oedd yn cynrychioli'r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, a dywedodd:

“there are a lot of blocks to new planting. You have a landowner who wants to plant and there are an awful lot of obstructions in the way before you can get approval. That might be environmental, it might be archaeological, it might be about the landscape, and there are an awful lot of organisations—most of them Government-funded in one way or another—that say ‘no’.” 

 

Rory Francis yw Swyddog Cyfathrebu Coed Cadw, a rhybuddiodd y dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn glir i dirfeddianwyr sydd â ddiddordeb mewn plannu coed y gallai'r gwaith ymchwil cysylltiedig fod yn ddrud.

 

Ymatebodd Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ddweud ei fod wedi cwblhau mwy na 1400 o hectarau o ailblannu, gyda dwywaith yr amrywiaeth o rywogaethau ag yr oedd ddegawd yn ôl, gyda'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau a blannwyd yn parhau i fod yn rhywogaethau conwydd masnachol.

 

Mae parhau i fuddsoddi yn y sector coedwigaeth yn hanfodol i economi Cymru, felly cred y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wrando ar y pryderon a godwyd gan y diwydiant mewn cysylltiad â phlannu annigonol a'r mathau o rywogaethau a gaiff eu plannu.  Byddai'r Pwyllgor yn croesawu diweddariad gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch sut y maent yn bwriadu cyrraedd y targed o blannu 100,000 ha erbyn 2030, a sut yr ymgynghorir â'r diwydiant coedwigaeth a thirfeddianwyr fel rhan o'r broses hon i sicrhau bod y mathau o rywogaethau a gaiff eu plannu yn addas at ddibenion masnachol ac amgylcheddol.

 

Diffyg tryloywder

Codwyd pryderon ynghylch tryloywder gweithrediadau masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda rhai tystion yn gweld mantais annheg o'i gymharu â gweithredwyr preifat. Dywedodd Martin Bishop y byddai'n ddefnyddiol i'w aelodau gael syniad o pryd y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhyddhau pren ar y farchnad.  Dywedodd fod ei aelodau yn teimlo rheidrwydd i dorri coed llarwydd heintiedig o fewn yr amserlenni a nodir ar hysbysiadau iechyd planhigion, ond pan fyddai ei aelodau a Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhyddhau pren ar yr un pryd, y byddai hyn yn cael 'effaith fasnachol'.

 

Gwrthododd Trefor Owen yr honiad o ddiffyg tryloywder, gan ddweud mai Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yr unig dyfwr coedwigaeth yng Nghymru sy'n nodi, unwaith y flwyddyn, cyfanswm y pren y bwriedir ei werthu, pryd y bwriedir ei werthu yn ystod y flwyddyn, a sut.  Ychwanegodd fod yr holl bren hwnnw yn cael ei werthu bellach drwy ddull electronig.  Dywedodd yn ddiweddarach, y byddai'n ymchwilio i ganfod a fyddai'n bosibl i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau bod rhagor o wybodaeth ariannol ar gael yn gyhoeddus.

 

Wrth ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud unrhyw elw ar dorri a gwerthu pren, dywedodd Trefor Owen ei fod.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi cael tua £18 y dunnell o incwm yn 2012-13, a'i fod, ar ôl costau o £7.30 y dunnell, wedi gwneud elw o tua £10.50 y dunnell.  Ychwanegodd fod elw o £10.20 wedi dod i law yn 2013-14 er gwaethaf yr anawsterau o fynd i'r afael â P.ramorum.

 

Cafodd y ffigurau a ddyfynnwyd gan Mr Owen eu cwestiynu'n ddiweddarach gan Confor mewn llythyr at y Pwyllgor yn dilyn y sesiynau tystiolaeth lafar.  Dywedodd Martin Bishop nad oedd yn cydnabod ffigurau fel adlewyrchiad cywir o gostau trin a gwerthu pren, ac ategodd alwad y diwydiant i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fwy tryloyw yn ei waith.

 

Nododd y Pwyllgor y pryderon a godwyd gan dystion ynghylch tryloywder, ac mae'n croesawu ymrwymiad Cyfoeth Naturiol Cymru i gyhoeddi gwybodaeth ychwanegol.  Hoffem wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru drafod â'r diwydiant y math o wybodaeth a all fod ar gael, a bod y Pwyllgor yn cael ei hysbysu o'r canlyniad. Byddai'n ddefnyddiol i Cyfoeth Naturiol Cymru egluro'r ffigurau a ddarperir o ran yr elw a wneir wrth dorri a gwerthu coed.

 

Rheoliadau

Roedd canfyddiad ymysg tystion bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gor-reoleiddio'r diwydiant ond nad oedd yn defnyddio yr un safonau i'w weithrediadau coedwigaeth ei hun. Teimlai tystion hefyd bod erlyniadau'n digwydd mewn sefyllfaoedd lle roedd yn bosibl na fyddent wedi digwydd cyn trosglwyddo'r cyfrifoldebau i Cyfoeth Naturiol Cymru.  Dywedodd David Edwards wrth y Pwyllgor fod erlyniadau'n digwydd erbyn hyn am dorri coed yn anghyfreithiol pan na fyddai hyn wedi digwydd o dan hen gyfundrefn Comisiwn Coedwigaeth Cymru.  Cyfeiriodd tystion at enghraifft o gwmni'n cael ei erlyn am dorri coed y tu allan i ardal y caniatawyd trwydded i dorri, a'u bod o'r farn fod hyn yn llym.

 

Unwaith eto, gwrthodwyd yr honiadau hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru; dyweodd Ceri Davies fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu yr un polisi erlyn gorfodi ag yr oedd yn ei ddilyn yn y gorffennol, ac mewn ymateb i'r feirniadaeth ynghylch llymder yr erlyniad, dywedodd fod y gweithredwr dan sylw wedi cael dau hysbysiad o rybudd ac wedi methu â gweithredu hyd yn oed wedyn."

 

Ni hoffai'r Pwyllgor ddatgan barn ynghylch a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn or-eiddgar o ran rheoleiddio'r diwydiant coedwigaeth, fodd bynnag, credwn y byddai gwell cyfathrebu rhwng y cyrff dan sylw yn mynd peth o'r ffordd tuag at leddfu'r pryderon a godwyd.

 

Cyfathrebu

Byddwch yn ymwybodol o'r berthynas wael ganfyddedig sy'n bodoli rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r diwydiant coedwigaeth, mae'r dystiolaeth a glywsom ar hyn i'w gweld isod.  Fe wnaethoch addewid i drafod y materion hyn gyda Chadeirydd a Phrif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru wrth gwrdd â hwy ym mis Medi, a buasem yn ddiolchgar pe gallech ein hysbysu o ganlyniad y drafodaeth honno.

 

Dywedodd tystion wrth y Pwyllgor mai ychydig iawn o gyfathrebu fu rhwng y diwydiant coedwigaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru hyd yma, er bod cydnabyddiaeth o welliant bach.  Dywedodd Andrew Bronwin mai un o'i feirniadaethau pennaf oedd ei bod yn anodd eu cael i wrando, rhaid gweiddi'n uchel iawn a chwyno llawer iawn.  Ychwanegodd eu bod yn dechrau cael eu clywed ychydig erbyn hyn, a bod y ffaith bod y Pwyllgor hwn yn digwydd yn helpu ychydig ar yr achos, ond na ddylid gorfod gweiddi mor uchel er mwyn i'r ddadl gael ei chlywed. Dylai fod deialog llawer mwy agored a llawer mwy o barodrwydd i drafod.

 

Dywedodd Martin Bishop wrth y Pwyllgor fod ei aelodau yn siarad am y diffyg sgwrs gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, galwadau ffôn nad ydynt yn cael eu dychwelyd, diffyg ymateb i negeseuon e-bost.  Credai bod dirywiad yn y berthynas o ganlyniad i'r newidiadau sefydliadol ac mai'r rheswm oedd ei fod yn sefydliad gwahanol ac nad yw pobl yn gwybod â phwy i siarad.  Ychwanegodd Mike Harvey nad oedd y berthynas rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r diwydiant bellach yr hyn yr oedd gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Cyfeiriodd tystion at y newidiadau staffio oedd wedi digwydd o ganlyniad i'r newid sefydliadol, a oedd yn golygu nad oedd rhanddeiliaid yn sicr pwy ddylent gysylltu â hwy i gael cyngor.  Roedd pryder hefyd bod staff ag arbenigedd yn y sector coedwigaeth wedi gadael neu wedi symud i wahanol adrannau o'r sefydliad.

 

Roedd Trefor Owen yn cydnabod bod y sefydliad wedi colli ychydig o aelodau o staff profiadol iawn, sydd wedi golygu gorfod denu pobl newydd i'r rolau hyn, a'u bod yn dal i ddysgu.

 

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar am y newyddion diweddaraf ynghylch sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rheoli newidiadau staffio ers ei greu, yn enwedig o ran sicrhau bod unrhyw fylchau gwybodaeth oherwydd bod staff wedi gadael neu symud o amgylch y sefydliad yn cael eu llenwi.  Byddai'n croesawu gwybodaeth ar sut mae'r staff sy'n ymgymryd â swyddi yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn eu sectorau priodol, ac unrhyw gymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod hwn o newid.

 

Er gwaethaf y pryderon hyn, roedd y tystion yn derbyn fod deialog gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau gwella'n raddol, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i bryderon ynglŷn â biwrocratiaeth, fel derbyn ffurflenni electronig. 

 

Roedd y cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cydnabod bod angen gwell cyfathrebu gyda'r diwydiant coedwigaeth, ac ymrwymodd i gymryd camau i gyflawni hyn.  Dywedodd Ceri Davies eu bod yn bwriadu cryfhau'r gynrychiolaeth coedwigaeth ar fforwm rheoli tir Cymru a sefydlu mecanwaith ar gyfer cyfarfod gyda chynrychiolwyr y diwydiant coedwigaeth.  Credai y byddai'r trefniadau hyn yn caniatáu deialog ddigonol gyda'r sector.

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r ymrwymiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru i wella'r llwybrau cyfathrebu gyda'r sector coedwigaeth, ac mae'n credu bod hyn yn elfen hollbwysig wrth wella'r berthynas waith a lliniaru'r pryderon a godwyd gan y diwydiant.  Byddai'r Pwyllgor yn croesawu diweddaraiad yn dilyn eich trafodaeth â Chadeirydd a Phrif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â sut y mae'r sefydliad yn bwriadu datblygu ei ddulliau cyfathrebu a gwella'r berthynas hon.

 

Phytophthora ramorum

Roedd rhanddeiliaid yn feirniadol o ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i'r achos o Phytophthora ramorum (P.ramorum). Roedd ymdeimlad cyffredinol ymysg y tystion fod yr ymateb cychwynnol i'r clefyd yn rhy araf a bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dangos diffyg arweiniad. Dywedodd Mike Harvey wrth y Pwyllgor ei fod yn credu nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymdrin â'r achos yn effeithiol. Dywedodd:

“[…] ramorum should have been dealt with; if you are going to contain it and manage it, you have to take the diseased trees out as fast as possible and that did not happen. It [NRW] did not carry out its own equivalent of statutory plant health notices in south Wales as it should have done. The scientists predicted that, as a result, ramorum would spread and it did.”

 

Roedd y tystion yn gyffredinol yn croesawu Strategaeth Rheoli Clefydau Llywodraeth Cymru ar gyfer P.ramorum, ond mynegwyd rhai amheuon ynghylch creu 'Parth clefyd craidd', gan holi a fyddai camau o'r fath wedi cael eu cymryd pe bai'r achos wedi digwydd ar dir a oedd yn eiddo i dirfeddianwyr preifat, yn hytrach na thir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.  Dywedodd Andrew Bronwin ei fod yn tybied hefyd, pe bai'r holl dir hwnnw yn ne Cymru wedi bod mewn perchnogaeth breifat, a fyddai Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb fel y gwnaeth. Mewn geiriau eraill, tybed a fyddai wedi tynnu'r holl hysbysiadau i lawr a chreu ardal clefyd craidd ynteu a fyddai llawer iawn o erlyniadau wedi bod oherwydd nad oedd pobl wedi cydymffurfio.

 

Ymatebodd Cyfoeth Naturiol Cymru i'r feirniadaeth drwy ddweud ei fod wedi darganfod lledaeniad digyffelyb o P.ramorum yn ystod ei fis cyntaf fel corff newydd ac wedi gweithredu polisi ynysu.  Dywedodd Ceri Davies wrth y Pwyllgor fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r sector coedwigaeth pan nad oedd y polisi ynysu yn gweithio, ac wedi datblygu strategaeth newydd i reoli'r clefyd mewn cydweithrediad â'r sector. Felly roedd Confor yn yr ystafell gyda Llywodraeth Cymru yn y cyfarfodydd grwpiau llywio ar iechyd coed yn trafod a phenderfynu beth ddylai'r strategaeth fod.

 

Casgliad

Fel Pwyllgor, rydym yn nodi â phryder y feirniadaeth o Cyfoeth Naturiol Cymru a godwyd gan randdeiliaid yn y dystiolaeth ysgrifenedig.  Rydym yn sylweddoli bod trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros reoli ystâd goedwigaeth gyhoeddus Cymru o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru i Cyfoeth Naturiol Cymru wedi arwain at newid sylweddol i bawb sydd ynghlwm â'r sector. Roedd yn anffodus bod amseru'r newid hwn yn cyd-daro â'r haint P.ramorum eang, a fyddai wedi achosi problemau sylweddol i unrhyw sefydliad orfod ymdopi â'i effaith.

 

Mae'r ymchwiliad hwn wedi nodi nifer o faterion y bydd angen i Cyfoeth Naturiol Cymru eu hystyried ac ymateb iddynt i leddfu'r tensiynau rhyngddo a'r diwydiant coedwigaeth.  Ar ôl clywed safbwyntiau'r ddwy ochr, tra'n cydnabod y gwir bryderon a godwyd, rydym yn credu mai rhagor o gyfathrebu rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector coedwigaeth yw'r ffactor pwysicaf wrth feithrin gwell perthynas rhwng y ddwy ochr. Rydym yn nodi'r ymrwymiad a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru i wella tryloywder ei weithrediadau a'r cyfathrebu gyda'r sector coedwigaeth a disgwyliwn weld cynlluniau ar waith i sicrhau hyn.

 

Fel Pwyllgor, rydym yn cynnal sesiynau craffu blynyddol gyda Chadeirydd a Phrif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, a byddwn yn parhau i fonitro cynnydd drwy'r dull hwnnw.

 

 

 

 

Mae’r llythyr hwn yn cael ei chopïo i Emyr Roberts, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Yn gywir

 

Description: P:\OPO\Committees\Committees (2011-2016)\Env & Sustainability\Correspondence\Chair's correspondence\Alun Ffred Jones sig.jpg

 

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd


Atodiad A - Tystion

Rhoddodd y tystion a ganlyn dystiolaeth i'r Pwyllgor.Gellir gweld trawsgrifiadau’r cyfarfodydd yn

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1308

 

5 MEHEFIN 2014

Sesiwn 1

Mike Harvey

Maelor Forest Nurseries Limited

Peter Whitfield

UPM Tilhill

Gavin Adkins

BSW Timber

Martin Bishop

Confor

Sesiwn 2

Rory Francis

Coed Cadw

Andrew Bronwin

Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

David Edwards

Panel Ymgynghorol y Strategaeth Goetiroedd

Sesiwn 3

Ceri Davies

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Trefor Owen

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 


Atodiad B – Tystiolaeth Ysgrifenedig

Cafwyd y dystiolaeth ysgrifenedig ganlynol. Gellir gweld yr holl dystiolaeth ysgrifenedig yn llawn yn

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgConsultationDisplay.aspx?id=120&RPID=1003431971&cp=yes

 

Sefydliad

Cyfeirnod

Marc P Jones

PFE 1

Coed Cadw

PFE 2

Dr Ian Miller

PFE 3

Bwrdd Llais y Goedwig

PFE 4

Cymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y DU

PFE 5

UPM Tilhill

PFE 6

Neil Anderson

PFE 7

Alec Dauncey

PFE 8

Confor

PFE 9

Panel Ymgynghorol y Strategaeth Goetiroedd

PFE 10

RSPB Cymru

PFE 11

BSW Timber

PFE 12

Partneriaeth Fusnes Coedwig Cymru

PFE 13

Ffederasiwn Diwydiannau Paneli Pren

PFE 14

Cyfoeth Naturiol Cymru

PFE 15

Maelor Forest Nurseries Limited

PFE 16

Ymddiriolaethau Natur Cymru

PFE 17

Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

PFE 18

 

Derbyniwyd tystiolaeth ysgrifenedig pellach yn dilyn y sesiynau tystiolaeth lafar:

Sefydliad

Cyfeirnod

Cyfoeth Naturiol Cymru

E&S(4)-19-14 papur 6

Confor

E&S(4)-19-14 papur 7